Nodedig - ac Unigryw. Mae hynny'n crynhoi Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.

 
Cafodd treftadaeth, cymeriad ac enw da unigryw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE) ac maent wedi ennill statws chwenychedig Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI). 

 
Mae PGI yn gosod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gyfwerth â chynhyrchion Ewropeaidd rhagorol eraill fel ham Parma o'r Eidal.

 
Mae'r bathodyn dilysrwydd PGI yn gwneud ein cynhyrchion yn wahanol iawn i eraill ym Mhrydain. Mae'n ansawdd a grëwyd o arferion ffermio da ar un o'r amgylcheddau ffermio gorau yn Ewrop. Mae arfordir 1200 km o hyd yn darparu awyr iach o'r môr i dair ochr o'r wlad, mae'r dirwedd werdd, fras yn ymestyn ymhell i'r tir, gan gynnig milltiroedd ar filltiroedd o fryniau a mynyddoedd lle gall preiddiau grwydro a bwydo ar y gorau sydd gan natur i'w gynnig.

 
Mae hyn i gyd yn cael ei adlewyrchu ym mlas ac ansawdd rhagorol Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.   

 

Logo PGI

 

 

Datblygwyd y cynllun enwau bwydydd gwarchodedig gan y Comisiwn Ewropeaidd er mwyn annog cynhyrchiant amaethyddol amrywiol, gwarchod enwau bwydydd rhag cael eu camddefnyddio neu eu dynwared, ac i helpu defnyddwyr trwy roi gwybodaeth iddynt ynglyn â chymeriad penodol y cynhyrchion.  Mae PGI yn un o'r dynodiadau gwarchodedig yn y cynllun hwn.

Mae PGI yn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr taw dim ond wyn a gwartheg a anwyd ac a fagwyd yng Nghymru ac a laddwyd mewn lladd-dy cymeradwy y gellir eu marchnata fel rhai o Gymru.  Hefyd, rhaid i'r anifeiliaid fod yn gwbl olrheiniadwy.

Gydag archwiliadau bob cam yn y gadwyn gyflenwi, mae safonau ansawdd, diogelwch bwyd ac olrheinedd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o'r radd flaenaf - felly gallwch fod yn dawel eich meddwl pan fyddwch yn prynu Cig Oen neu Gig Eidion o Gymru mai dyna fyddwch yn ei brynu - cig o Gymru. 

ryseitiau

Beth am wneud un o'n ryseitiau blasus

mwy