Competitions


Mae'n dymor y barbeciw ac i ddathlu hyn rydym yn cynnig set o offer barbeciw a gwerth £20 o Gig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru i un enillydd lwcus.

Yn ddiweddar cafodd EatWelshLamb.co.uk ac EatWelshBeef.co.uk newid eu gwedd gyda nodweddion newydd sy'n cynnwys yr adran Gwnewch eich llyfr coginio'ch hun a'r sianel  Teledu Cig Oen Cymru.

Mae'r Cymro Bryn Williams yn un o'n pen-cogyddion gorau, ac ar y sianel deledu mae'n esbonio pam mae'n defnyddio Cig Oen Cymru yn ei dy bwyta.

Er mwyn cael cyfle i ennill y wobr y mis hwn, y cyfan sydd raid ei wneud yw ateb y cwestiwn a ganlyn: 

31/8/10 Beth yw enw ty bwyta Bryn yn Llundain?

Mae yna gliwiau i'ch helpu i ateb y cwestiwn hwn yn y cyfweliad â Bryn ar hafan y wefan hon.

Y dyddiad cau ar gyfer atebion yw 31 Awst 2010.

Pob lwc!

 

Cystadleuaeth y Mis Diwethaf

Yr ateb cywir i'r gystadleuaeth ddiwethaf, pan ofynnwyd o ba wlad y mae Kainuun Rönttönen yn dod, oedd y Ffindir.

Llongyfarchiadau i Meenu Sharma o Eccles, Manceinion, a oedd yn fuddugol, a da iawn i bawb arall a gafodd yr ateb cywir.

Llenwch eich manylion isod gyda'ch ateb.
Fe wnaen roi gwybod i chi trwy e-bost os rydych wedi ennill.




Anfon
Pob Lwc!