


Mae defnyddwyr ar draws y Deyrnas Unedig yn cael eu hannog i brynu mwy o Gig Oen Cymru fel rhan o ymgyrch a lansiwyd heddiw i gefnogi ffermwyr Cymru i ymdopi â sgil-effeithiau’r gwaharddiad ar allforion oherwydd clwy’r traed a’r genau.
Mewn ymgyrch sy’n ein hatgoffa am yr ymgyrch 'Dig for Victory' yn ystod yr Ail Ryfel byd, pan ofynnwyd i bobl gwledydd Prydain dyfu eu llysiau eu hunain, mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi lansio’i ymgyrch ei hun i ddenu cefnogaeth i ffermwyr Cymru – nid drwy neilltuo amser neu lofnodi deisebau, ond drwy fwyta mwy o Gig Oen Cymru nag arfer.
Mae’r gwaharddiad allforion cig coch o’r DG i Ewrop ar ôl yr achosion o glwy’r traed a’r genau yn Surrey wedi cael effaith ddifrifol ar ffermwyr Cymry oherwydd mae traean Cig Oen Cymru'r adeg hon o’r flwyddyn yn cael ei werthu i Ffrainc.
Er i’r gwaharddiad ar allforio ddod i ben ar y 12 Hydref, mae llawer o ffermwyr Cymru, am na fu modd iddyn nhw allforio ŵyn i Ewrop yn ystod y tymor allweddol, wedi gorfod cadw mwy o ŵyn ar eu ffermydd nag y gallan nhw eu bwydo. Fe allai fod ar ben yn ariannol ar lawer o ffermwyr oni bai fod prynwyr y Deyrnas Unedig gyfan yn eu cefnogi nawr ac yn bwyta mwy o Gig Oen Cymru.
Yn ogystal â bwyta mwy o Gig Oen Cymru, mae modd i bawb ddangos eu cefnogaeth drwy osod poster neu sticer ‘Prynwch Gig Oen Cymru’ mewn lle amlwg. Mae modd lawrlwytho posteri o’r wefan ‘Prynwch Gig Oen Cymru’, www.buywelshlamb.co.uk, a bydd sticeri’n cael eu dosbarthu yn ystod digwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru drwy gydol Tachwedd. Mae HCC yn gobeithio y bydd grwpiau cymunedol, sefydliadau a phobl flaenllaw yn cefnogi’r ymgyrch. Cafwyd cefnogaeth eisoes gan lawer o ben-cogyddion Cymru, gan gynnwys Dudley Newbury (S4C) a Matt Tebbutt (Market Kitchen).
Dilynwyd gan Golley Slater a ddatblygwyd gan imaginet