Sioeau Teithio

Sioe Deithiol Cig Oen Cymru

Mi fydd sioe deithiol Cig Oen Cymru yn dod i archfarchnad yn eich ymyl chi yn ystod mis Tachwedd 2007. Edrychwch allan am drailer hyrwyddo Gwir Flas a fydd wedi ei leoli ym maes parcio'r archfarchnad.

Cynhelir arddangosfa coginio yn defnyddio Cig Oen Cymru yn gyson drwy'r dydd a cewch gyfle i flasu'r ryseitiau blasus yma.

I'r rheiny ohonoch fydd yn prynu Cig Oen Cymru ar ddiwrnod yr ymweliad bydd yna gyfle i roi cynnig ar ein cystadleuaeth cyffrous i ennill noson yng nghwmni y cogydd teledu Cymreig Matt Tebbutt! Bydd Matt yn coginio pryd tri chwrs ar gyfer chwech aelod o’ch teulu a’ch ffrindiau yn eich cartref gyda chig oen Cymru blasus fel y prif gwrs.

Lleoliadau a Dyddiadau'r Sioe Deithiol

Dyddiad Lleoliad
Dydd Mawrth 20 Tachwedd 2007 Somerfield - Gorseinion
Dydd Mercher 21 Tachwedd 2007 Sainsbury's - Salford
Dydd Iau 22 Tachwedd 2007 Sainsbury's - Macclesfield
Dydd Sadwrn 24 Tachwedd 2007 Sainsbury's - Caer
Dydd Llun 26 Tachwedd 2007 Sainsbury's - Lemington Spa
Dydd Mawrth 27 Tachwedd 2007 Sainsbury's - Kidderminster
Dydd Iau 29 Tachwedd 2007 Morrisons - Llanelli
 

Dilynwyd gan Golley Slater a ddatblygwyd gan imaginet