FAQs

Lle alla' i brynu Cig Oen Cymru a/neu Gig Eidion Cymru?

Cigydd Lleol

Bydd eich cigydd lleol yn cynnig dewis eang o ddarnau o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, a gall hefyd eich cynghori ynglyn â ryseitiau newydd.  Bydd llawer o gigyddion hefyd yn cynnig dewis eang o gynhyrchion cartref blasus wedi'u gwneud o gig Cymru.

Gwerthwyr

Mae modd prynu Cig Eidion Cymru a Chig Oen Cymru o ansawdd gan sawl math o werthwr yn y DG. Fe gewch hyd i'n brandio lle bynnag y mae modd prynu cig o ansawdd.

Cyflenwyr

Mae nifer gynyddol o gyflenwyr o ansawdd uchel yn gwerthu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn syth o'r fferm. Erbyn hyn mae modd archebu rhai cynhyrchion ar-lein.

Sut alla' i fod yn siwr fod y cig rwy'n ei brynu yn dod o Gymru?

Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi ennill statws nodedig Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI)

Mae PGI yn rhoi sicrwydd i'r defnyddiwr taw dim ond cig o wyn a gwartheg wedi'u geni a'u magu yng Nghymru a'u lladd mewn lladd-dy cymeradwy y gellir ei farchnata fel cig Cymru.  Hefyd, rhaid bod modd olrhain tarddiad yr anifeiliaid.

Am fod archwilio bob cam o'r gadwyn gyflenwi, mae safonau ansawdd, diogelwch bwyd ac olrheinedd Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o'r radd flaenaf.  Felly, gallwch fod yn dawel eich meddwl wrth brynu Cig Oen Cymru a/neu Gig Eidion Cymru fod y cig hwnnw'n dod o Gymru.  I ddarllen mwy am PGI, cliciwch yma.

A ddylid dewis cig yn ol ei liw?

Nid yw lliw cig coch o angenrheidrwydd yn arwydd o safon, ond y mae prynwyr yn dueddol o ddewis cig eidion sy'n goch ei liw oherwydd eu bod yn credu bod hyn yn arwydd o ffresni. Mewn gwirionedd, y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw bod y cig newydd ei dorri.

Tuag ugain munud wedi'i dorri, bydd lliw'r cig yn troi'n goch llachar ac yna'n raddol yn brownio. Nid yw'r newidiadau lliw hyn yn effeithio ar ansawdd y blas. Bydd cig eidion a welir mewn siopau cigyddion, ac archfarchnadoedd felly'n amrywio o goch llachar i frown cochlyd. Mae lliw cig eidion a chig oen amrwd yn diflannu yn ystod eu coginio.

Sut mae mynd at i i gerfio darn o gig yn llwyddiannus?

Yr offer angenrheidiol ar gyfer cerfio'n llwyddiannus yw fforch gerfio ddwybig sy'n gwarchod bysedd, cyllell gerfio fawr, finiog a theclyn i'w hogi'n gyson.

Dylid gosod y golwyth, wedi'i goginio, ar blât cig, bwrdd pren, neu ddisgl cerfio matal pigog, gyda sianeli i ddal sudd y cig. Ceisiwch bob amser i gerfio ar arwynebedd di-lithrio.

Pan fydd hynny'n bosibl, tynnwch unrhyw esgyrn amlwg (fel esgyrn asen) o'r cig cyn ei gerfio. Ceisiwch dorri'r cig ar ongl sgwâr i'r asgwrn ac yn erbyn graen y cig er mwyn lleihau ffibrau'r cyhyrau. Mae hyn yn gwneud y cig yn haws i'w dreulio ac felly'n fwy tyner.

Weithiau mae'n haws dal asgwrn coes neu ysgwydd gyda lliain glan neu dywel papur. Er diogelwch, dylid defnyddio'r dull hwn o gerfio pan fydd ochr finiog y gyllell yn wynebu oddi
wrth y llaw sy'n dal y golwyth.

Sawl gram o fraster ddylwn i ei fwyta bob dydd?

Ni ddylai gwryw fwyta mwy na 95g o fraster y dydd ac ni ddylai menyw fwyta mwy na 70g. 

Bydd trimio unrhyw fraster gweladwy oddi ar y cig yn golygu llai o fraster a chalorïau.

Pa fath o doriadau Cig Eidion Cymru alla’ i eu prynu?

Y Goes Las (coes flaen) a Choes (coes ôl)

Cig heb fawr o fraster â chyfran uchel o feinwe gysylltiol. Yn addas mewn stiw, caserol, cawl ac isgell.

Gwddf a Gwegil

Fel arfer, caiff y cig hwn ei dorri'n ddarnau ac mae'n addas i'w stiwio a'i frwysio.  Caiff ei ddefnyddio'n gyffredin ar gyfer briwgig.

Palfais a Sbawd

Toriad o gig eidion sy'n weddol ddi-fras oddi ar yr asgwrn.  Caiff ei werthu'n  stecen balfais a phalfais wedi'i deisio - ac mae'n dda iawn i lenwi pastai.

Ystlys Dew (ffolen uchaf)

Toriad o gig eidion heb fawr o fraster sy'n addas ar gyfer rhostio, pot-rostio a brwysio.

Ystlys Denau

Yn ddelfrydol ar gyfer brwysio a stiwio, ond yn cael ei defnyddion amlach ar gyfer briwgig.

Brisged

Mae modd ei phrynu ar yr asgwrn, ond y dyddiau hyn caiff ei gwerthu'n amlach oddi ar yr asgwrn ac wedi'i rholio ar gyfer pot-rostio.

Asennau Tenau ac Asennau Tew

Maen nhw ar gael ambell waith oddi ar yr asgwrn ac yn addas ar gyfer brwysio a phot-rostio, ond yn amlach caiff y braster ei drimio a chânt eu defnyddio ar gyfer briwgig.

Ystlys Las

Toriad o gig eidion heb fawr o fraster sy'n cael ei ddefnyddio fel arfer ar gyfer rhostio a phot-rostio. Yn draddodiadol, cafodd ei ddefnyddio i'w halltu a'i werthu'n gig eidion hallt wedi'i sleisio.

Asen Flaen

Yn draddodiadol, dyma'r toriad traddodiadol o gig eidion i'w rostio. Mae modd ei brynu ar yr asgwrn neu oddi ar yr asgwrn ac wedi'i rolio. Caiff ei ddefnyddio hefyd i baratoi stêcs llygad yr asen.

Syrlwyn

Toriad o gig eidion brau a llawn sudd.  Mae modd ei brynu ar yr asgwrn, ond fel arfer caiff yr asgwrn ei dynnu a chaiff y cig ei rolio i greu darn rhostio nodedig sy'n hawdd ei sleisio. Caiff ei werthu hefyd wedi'u sleisio oherwydd mae stêcs syrlwyn yn addas ar gyfer ffrio, grilio a'u rhoi ar farbeciw.

Ffiled

Mae'r cyhyr ffiled ar ochr fewnol yr asennau ac fel arfer caiff ei dynnu'n un darn. Fel arfer, mae ar gael wedi'i sleisio'n stêc ffiled neu mae modd ei dorri'n ddarnau i greu cig eidion Wellington.

Ffolen

Toriad brau rhagorol heb fawr o fraster.  Caiff ei werthu fel arfer wedi'i sleisio ar gyfer grilio, ffrio a barbeciw.

Ochr Orau'r Rownd

Toriad o gig eidion heb fawr o fraster.  Mae modd ei brynu â haenen denau o fraster wedi ei chlymu wrtho. Darn delfrydol ar gyfer rhostio.  Mae ar gael hefyd wedi'i sleisio ac mae'n addas fel stecen i'w ffrio'n gyflym

Sawl gram o fraster ddylwn i ei fwyta bob dydd?

Ni ddylai gwryw fwyta mwy na 95g o fraster y dydd ac ni ddylai menyw fwyta mwy na 70g. 

Bydd trimio unrhyw fraster gweladwy oddi ar y cig yn golygu llai o fraster a chalorïau.

Pa fath o doriadau Cig Oen Cymru alla’ i eu prynu?

Scrag a Chanol Gwddf

Yn cael ei werthu fel arfer yn gylchoedd gwddf neu olwython ar yr asgwrn, ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer stiwio neu frwysio. Toriadau traddodiadol ar gyfer cawl.

Ysgwydd

Darn brau a llawn sudd i'w rostio.  Ar gael ar yr asgwrn neu'n amlach oddi ar yr asgwrn, wedi'i rolio - ac efallai wedi'i stwffio. Ar gael hefyd yn gyfan neu wedi'i haneru'n ddarnau sbawd neu goesgyn - y ddau'n ddelfrydol i'w rhostio neu frwysio.
Mae golwython a stêcs ysgwydd ar gael hefyd sy'n addas i'w ffrio, grilio a brwysio.

Pen Gorau'r Gwddf

Mae modd ei brynu fel darn i'w rostio sy'n cynnwys chwech neu saith o esgyrn asen (gofynnwch i'ch cigydd dynnu'r asgwrn cefn i wneud sleisio'n haws).  Yn amlach, mae ar gael yn gytledi i'w grilio neu ffrio. Mae dau ben gorau'r gwddf yn wynebu ei gilydd a'r ochr fras y tu allan yn creu ‘gosgordd er anrhydedd'.

Ar gael hefyd naill ai fel ragiau â thri neu chwe asgwrn sy'n addas i'w ffrio neu i'w torri'n gytledau yn y dull Ffrengig er mwyn eu ffrio a grilio.

Lwyn

Fel arfer caiff y lwyn ei rhannu'n ben lwyn a phen lwyn ôl a'i thorri'n olwython i'w grilio a ffrio. Hefyd, mae modd tynnu'r lwyn yn llwyr oddi ar yr asgwrn, ei stwffio a'i rholio i greu darn rhostio neu ei dorri'n gnapiau unigol.

Mae modd prynu'r lwyn ôl yn olwython lwyn ôl, ond fel arfer caiff ei gwerthu'n stêcs ffolen oddi ar yr asgwrn sy'n frau dros ben ac yn ddelfrydol ar gyfer ffrio a grilio. Mae'r ffolen oddi ar yr asgwrn yn addas hefyd i'w rhostio.

Coes

Darn rhostio rhagorol naill ar yr asgwrn neu oddi ar yr asgwrn ac wedi'i rolio. Yn aml, caiff y goes ei rhannu'n ben ffiled a phen siancen yn ogystal ag amryw o stêcs coes.