Gwybodaeth am Faeth
Mae bwyd, maeth ac ymarfer corff yn hollbwysig i'n hiechyd a lles yn gyffredinol ac mae Hybu Cig Cymru'n ymdrechu i hyrwyddo agweddau cadarnhaol at gig coch a chynhyrchion cig coch.
Mae cig coch heb fawr o fraster yn rhan bwysig o ddiet cytbwys iach sy'n cynnwys protein, fitaminau a mwynau sy'n hanfodol ar gyfer iechyd da.
Gall cydbwysedd da o fwydydd ein diogelu rhag llawer o glefydau cyffredin, gan gynnwys clefyd y galon a chanser.
Mae yna sawl budd i ddiet cytbwys:
-edrych a theimlo'n well
-teimlo'n fwy ffit a mwy egnïol
-gwell siâp i'r corff
-rheoli pwysau'n well
-llai o straen ac mewn gwell hwyliau.
Cael Cydbwysedd
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn defnyddio model darluniadol ar gyfer diet iach o'r enw Cydbwysedd Iechyd Da. Mae'n cynnwys 5 adran, ac enw un ohonyn nhw yw "cig, pysgod a dewisiadau eraill". Argymhellir bwyta meintiau cymedrol o'r bwydydd hyn fel rhan o ddiet cytbwys.
Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.com yn defnyddio model tebyg o'r enw "Cael y Cydbwysedd Iawn" sy'n seiliedig ar batrwm yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Deg canllaw ar gyfer diet cytbwys/ bwyta'n iach
*seiliwch eich prydau ar fwydydd startsh
*bwytewch lawer o ffrwythau a llysiau
*bwytewch ychydig o gig, pysgod, wyau, ffa a chodlysiau
*cynhwyswch ychydig o laeth a chynhyrchion llaeth
*peidiwch â bwyta cymaint o fraster dirlawn a siwgr
*ceisiwch fwyta llai o halen - dim mwy na 6g y dydd
*cadwch i fynd a cheisiwch fod â phwysau iach
*yfwch ddigon o ddwr
*peidiwch â cholli brecwast
*paratowch a chadwch fwydydd yn ddiogel.
Cig a Iechyd
Mae HCC yn un o bartneriaid meatandhealth. Rhan allweddol o'r gwasanaeth yw gwefan sy'n cynnig gwybodaeth gynhwysfawr am faeth. Ewch i www.meatandhealth.com . Gall Nyrsys Practys danysgrifio hefyd ar gyfer cylchlythyr am ddim, Nutrition For Nurses.