Français Deutsch Italiano Arabeg Tsieineaidd
Español Nederlandse
Daw Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru o wlad sy'n enwog am ei mynyddoedd, dyffrynnoedd a thywydd, ac mae'r rhain i gyd yn cyfuno i greu amgylchedd unigryw.
Caiff gwartheg a defaid yng Nghymru eu magu drwy gydol y flwyddyn ar borfeydd gwelltog sydd wastad yn las oherwydd digonedd o law.
Mae gan Gymru draddodiad hir o ffermio defaid, sydd wedi helpu i greu cig o'r ansawdd gorau.
Mae gan Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru enw da ledled y byd. Mae breuder a melyster eithriadol Cig Oen Cymru yn golygu fod gan ddefnyddwyr gig blasus sy'n hawdd ei baratoi. Mae Cig Eidion Cymru yn gig â blas nodedig.
Bydd ffermwyr yng Nghymru yn ymfalchïo eu bod yn cynhyrchu cig o'r ansawdd gorau trwy ymdrechu'n frwdfrydig ym mhob rhan o'u gwaith.
Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu cydnabod gan y Comisiwn Ewropeaidd sydd wedi dyfarnu statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) i ddiogelu eu nodweddion rhanbarthol unigryw.
Mae hyn yn golygu taw dim ond cig oen a chig eidion o wyn a gwartheg sydd wedi eu geni a'u magu yng Nghymru, y mae modd olrhain eu tarddiad ac a gafodd eu prosesu mewn lladd-dai cymeradwy gaiff eu marchnata â label ‘Cymru'.
Mae safonau diwydiant cig coch Cymru ynglyn ag ansawdd, diogelwch bwyd ac olrheinedd ymhlith y rhai mwyaf caeth yn y byd, gydag archwilio ym mhob cam o'r gadwyn gyflenwi.
Mae hyn i gyd yn golygu fod gan ddefnyddwyr y sicrwydd eu bod yn prynu cig o'r safon gorau pan fyddan nhw'n prynu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.
I gael rhestr o ladd-dai cymeradwy PGI, byddwch cystal â chysylltu â HCC yn info@hccmpw.org.uk