Ym 1993, daeth deddfwriaeth Ewropeaidd i rym a oedd yn sicrhau y byddai bwyd neu ddiod wedi ei gofrestru ar lefel Ewropeaidd yn cael ei warchod rhag dynwarediad ledled yr UE.  Mae PGI yn un o'r dynodiadau sy'n cael eu gwarchod dan y ddeddfwriaeth hon.  Gall PGI ddangos fod y bwyd neu'r ddiod yn cael ei gynhyrchu a'i brosesu yn ôl safonau a rhagofynion wedi eu cytuno ac oherwydd hyn mae'n arf marchnata pwysig iawn.

 
Yr awdurdod cig coch Hybu Cig Cymru (HCC) sy'n gweithredu fel gwarcheidwaid dynodiadau PGI Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru.  Penodwyd corff archwilio annibynnol i fonitro'r defnydd o'r dynodiadau hyn.  Mae hyn yn cynnwys sicrhau y caiff y safonau a ganlyn eu cynnal:

  • Olrheinedd a tharddiad yr anifeiliaid;
  • Cydymffurfio â gofynion rheoleiddio'r llywodraeth a gweithdrefnau arferion gorau;

 

cig

Yn y sector mân-werthu:

  • Mae rhoi disgrifiad anwir o unrhyw nwyddau a gynigir i'w mân-werthu yn drosedd dan Ddeddf Disgrifiadau Masnach (1968) ac mae swyddogion Safonau Masnachu'n gyfrifol am archwilio cydymffurfiad â PGI ar lefel mân-werthu.

 

Rhaid i bob lladd-dy a chanolfan torri cig sy'n defnyddio dynodiadau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gael eu cymeradwyo gan HCC.  Caiff yr holl fannau hyn eu cymeradwyo'n flynyddol. 

 
I gael rhagor o wybodaeth ynglyn â Chig Oen Cymru, Cig Eidion Cymru a statws PGI, cysylltwch â HCC ar 01970 625050 neu e-bostiwch info@hccmpw.org.uk.

cynghorion

Cynghorion am gadw cig

mwy