Ryseitiau Cig o Gymru -

Golwython Cig Oen Cymru gyda Saws Barbeciw Gludiog

Golwython Cig Oen Cymru gyda Saws Barbeciw Gludiog
idealforbbqs

Amser Coginio: Tua 25 munud

Tymheredd: Nwy 4, 180°C, 350°F

 

Rhowch y golwython cig oen mewn padell rhostio fawr sy'n gwrthsefyll gwres.

Cymysgwch y sudd ffrwythau, y ddau saws, y mwstard a'r 5-sbeis gyda'i gilydd.

Taenwch dros y cig, gan droi'r cig i sicrhau bod y saws yn mynd drostynt i gyd.

Rhowch y cig yn y popty a'i goginio am 20 munud nes bo ymylon y braster yn dechrau tywyllu.

Ar ôl 20 munud, tynnwch nhw o'r popty ac arllwys y saws yn ofalus i jwg.

Rhowch y cig yn ôl yn y popty am 5 munud arall i droi'n fwy gludiog ac euraid.

Gweinwch gyda'r saws barbeciw, tatws pôb a thywysennau corn.

Nutritional Analysis

  • Calorïau 563
  • Egni 2338
  • Braster 43.5
  • Brasterau dirlawn 20.2
  • Haearn 2.81mg
  • Halen 1.53g
  • 5-y-dydd
Digon i: 4

Cynhwysion

    • 8 golwython coch o lwynau cig oen Cymru
    • 150ml (¼pt) o sudd afal a mango (neu flas tebyg)
    • 45ml (3 llwy fwrdd) saws coch
    • 15ml (1 llwy fwrdd) saws brown
    • 15ml (1 llwy fwrdd) mwstard
    • 2.5ml (½ llwy de) 5-sbeis Tsieineaidd

 Ryseitiau

Chwilio am Ryseitiau

Tags

Cael hyd i Gigydd

Eich un agosaf Cigydd Cig Oen Cymru

User comments